Mae adroddiadau bod pobol wedi cael eu symud o gastell Caernarfon yn dilyn argyfwng meddygol yno heddiw (dydd Sul, Tachwedd 10).
Yn ôl tystion, mae’r ambiwlans awyr wedi glanio ger y castell yn dilyn seremoni Sul y Cofio.
Does dim mynediad i’r castell ar hyn o bryd.