Mae’r darlledwr, David Dimbleby, wedi beirniadu’r ieithwedd y mae gwleidyddion yn ei defnyddio gan ddweud ei bod yn “tanseilio democratiaeth”.

Mae’r cyn gyflwynydd Question Time, 81, yn ôl ar y BBC gyda rhaglen Panorama am Brexit.

Ar BBC Radio 4 heddiw (Tachwedd 6) fe ddywedodd cyn-gyflwynydd Question Time,  mai’r un peth sy’n dod trwodd yw “atgasedd tuag at wleidyddion” a’r “ieithwedd sy’n cael ei ddefnyddio mewn gwleidyddiaeth”.

“Mae hynny yn ofnadwy o bwysig. Mae iaith y ‘surrender act’ a’r holl bethau rydym wedi ei glywed yn Nhŷ’r Cyffredin wedi tanseilio democratiaeth.”