Mae Llafur yn addo cyflwyno mesurau i leihau biliau ynni pe baen nhw’n dod i rym ar ôl yr etholiad cyffredinol y mis nesaf.
Bwriad Jeremy Corbyn a’i blaid yw mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd.
Nod y blaid y sicrhau bod gan 27 miliwn o gartrefi systemau insiwleiddio llofftydd, ffenestri dwbwl a thechnolegau carbon isel ac adnewyddadwy erbyn 2030.
Byddai hyn yn creu 450,000 o swyddi ac yn costio £60bn, meddai’r blaid, sy’n dweud y byddai hefyd yn arwain at ostyngiad o 10% mewn allyriadau carbon.