Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilm, Paul Turner, sydd wedi marw’n 73 oed.
Mae’n fwyaf adnabyddus am gyfarwyddo’r ffilm Hedd Wyn, y ffilm Gymraeg gyntaf erioed i gael enwebiad ar gyfer Oscar, a hynny yng nghategori’r ffilm iaith dramor orau.
Ymhlith ei weithiau amlwg eraill mae The Life and Times of David Lloyd George a Porc Pei, a gafodd ei throi’n gyfres deledu i S4C.
Yn enedigol o Gernyw, aeth ati i ddysgu’r Gymraeg yn gweithio i’r BBC.
‘Cyfraniad aruthrol’
“Roedd cyfraniad Paul Turner i ffilm a theledu Cymru yn aruthrol, ac yntau wrth galon llawer o ddramâu llwyddiannus S4C yn y dyddiau cynnar,” meddai Amanda Rees, Comisiynydd Cynnwys S4C.
“Rydym yn cofio yn arbennig am y ffilm Hedd Wyn a sut lwyddodd Paul i roi Cymru ar lwyfan y byd drwy adrodd stori unigryw Gymreig ond efo adlais rhyngwladol.
“Byddwn yn cofio amdano fel gŵr a gweledigaeth a thân yn ei fol dros Gymru a’r Gymraeg a’r ysfa i ddarlunio hynny ar ffilm.”
Teyrngedau eraill
Mae nifer o deyrngedau wedi’u rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol.
#HeddWyn – un o ffilmiau gorau Cymru erioed. Camp digymar.
Trist i glywed y newyddion am farwolaeth Paul Turner.— Wogan Jones 🏴🇪🇺 (@Wogan_Jones) November 3, 2019