Mae deiseb wedi ei sefydlu i wrthwynebu cerflun yng nghastell y Fflint fyddai’n rhan o broject i adfywio’r ardal sy’n gobeithio bod yn “hwb” cymunedol.
Mae’r cerflun yn cael ei greu gan gerflunydd o Fryste, Rich White wedi iddo ennill cytundeb gwerth £62,500 i’w greu.
Daw hyn ddwy flynedd wedi i’r bwriad i gael cerflun tebyg yng Nghastell y Fflint gael ei roi i’r neilltu, yn dilyn gwrthwynebiad ffyrnig gan Gymry oedd yn cyhuddo Cadw o ddathlu concwest y Cymry…
“Pobol o dde Cymru” wedi “gorymateb yn llwyr” i’r Cylch Haearn
Roedd y cylch wedi’i enwi ar ôl cyfres o gestyll a gafodd eu hadeiladu gan y brenin Edward y Cyntaf i ormesu’r Cymry, ond bu’n rhaid gohirio’r cynllun yn sgil ymateb y cyhoedd.
Mae cryn dipyn o ymateb wedi bod i’r bwriad i gael cerflun ar wefan Trydar:
You think someone might have learnt after last time. If you are going to build a memorial or sculpture at a place of conquest and colonialism it has to be dedicated to the victims. https://t.co/hrX3CuCstO
— Martin Johnes (@martinjohnes) October 31, 2019
Petition about Flint Castle:
Welsh Government: Flint castle does not need an art piece to "commemorate" the oppression of the Welsh. – Sign the Petition! https://t.co/KTFuY62Yk4 via @UKChange.@DonnaWarburton1 @Wiznyme1— Lloyd??????? (@LloydCymru) November 1, 2019
Mae golwg360 wedi gofyn i Cadw a Llywodraeth Cymru am sylw.