Mae sylwebydd radio a theledu wedi beirniadu Radio Cymru’n hallt, gan gwestiynu a fydd yr orsaf yn dal i fynd am lawer hirach.
Ar ei flog Shitclic mae Dylan Wyn Williams – a fu’n golofnydd yn adolygu teledu a radio i gylchgrawn Golwg a phapur newydd Y Cymro – yn tynnu sylw at ffigurau gwrando’r orsaf ac yn dweud eu bod yn “gwneud i rywun amau a fydd Radio Cymru hefo ni am lawer hirach”.
Mae hefyd yn beirniadu Radio Cymru 2, chwaer orsaf ddigidol BBC Radio Cymru, a’r “un hen rhai” sydd ynghlwm â hi – mae yna lun o’r cyflwynwyr Caryl Parry Jones a Dafydd Du ynghyd â’r sylw yma ar ei flog.
Daeth i’r amlwg fis diwethaf bod 102,000 o bobol wedi gwrando ar Radio Cymru yn ystod y tri mis gynt – y nifer isaf ers yr 101,000 a gofnodwyd yn 2016.
Erbyn hyn, mae’r ffigyrau ar gyfer Radio Cymru hefyd yn cynnwys y nifer sy’n gwrando ar Radio Cymru 2. Mae Dylan Wyn Williams yn awgrymu bod neb yn gwrando ar yr ail orsaf.
“Piso ar jips”
Mater arall sy’n cael sylw’r adolygwr yw penderfyniad Radio Cymru i beidio â darlledu’n fyw o Ŵyl Gerdd Dant 2019 nac ychwaith o eisteddfod genedlaethol y Clwb Ffermwyr Ifanc (CFfI).
“Dw i’n ymwybodol nad ydi corau Laura Ashley-aidd â geriach Cwt Tatws, na ffarmwrs mewn ffrogiau (Maggi Noggi’s Drag Race?) at ddant pawb,” meddai ar ei flog, “ond mae penderfyniad Radio Cymru i beidio â darlledu’n fyw o’r ŵyl gerdd dant nac Eisteddfod CFfI Cymru eleni yn od ar y naw.”
Er bod “gemau rhyngwladol yr hydref yn boen i drefnwyr amserlenni” fel arfer, meddai, mae’n dweud bod “dim esgus” tros beidio â darlledu yn fyw eleni.
“Sôn am biso ar jips y gynulleidfa draddodiadol,” meddai wedyn. “Nais won, Radio Cymru.”
Mae golwg360 wedi gofyn i’r BBC am ymateb.