Mae Boris Johnson yn dweud ei fod yn “difaru” methu â chyflawni Brexit erbyn Hydref 31.

Daw ei sylwadau ar raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News, ar ôl iddo ddweud cyn hynny y byddai’n well ganddo “farw mewn ffos” na gofyn am estyniad i’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac mae’n dweud ei fod yn “ymddiheuro” am fethu’r dyddiad disgwyliedig.

Ond ar fater ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban, fe fanteisiodd e ar sefyllfa Brexit i fynnu “nad yw pobol yn y wlad hon yn meddwl bod refferenda yn wych iawn ar gyfer cytgord”.

Ac fe dynnodd e sylw at sylwadau yn 2014 mai refferendwm “unwaith mewn bywyd” oedd yr un hwnnw.