Mae’r SNP a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn barod i gymeradwyo’r etholiad cyffredinol y mae Boris Johnson wedi bod yn galw amdano.

Fe ddaw ar ôl i brif weinidog Prydain gyhuddo aelodau seneddol o gadw “gwystlon” wrth i helynt Brexit barhau.

Fel arfer, byddai angen i ddau draean o aelodau seneddol gymeradwyo etholiad mewn pleidlais yfory (dydd Llun, Hydref 28) er mwyn iddo wireddu ei ddymuniad.

Ond yr awgrym yw fod y ddwy blaid yn barod i gytuno mai mwyafrif yn unig fyddai ei angen, a hynny ar yr amod fod yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi estyniad i Brexit tan Ionawr 31.

Byddai etholiad wedyn yn cael ei gynnal ar Ragfyr 9, yn hytrach na Rhagfyr 12 yn ôl dymuniad Boris Johnson.

‘Gwystlon’

Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, a Jo Swinson, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi anfon llythyr at Donald Tusk, llywydd yr Undeb Ewropeaidd, yn galw am estyniad tan Ionawr 31.

Dywed Ian Blackford fod angen etholiad, ond “nid ar delerau’r prif weinidog”.

Dydy Llafur ddim wedi dweud sut y byddan nhw’n pleidleisio yfory, wrth i Jeremy Corbyn ddweud ei fod yn aros i weld penderfyniad penaethiaid Ewrop cyn ymrwymo i benderfyniad.

Mae Llywodraeth Geidwadol Prydain yn parhau i wrthod wfftio Brexit heb gytundeb, gan ddweud fod “pob opsiwn ar y bwrdd o hyd”.

Dywed Boris Johnson fod y Senedd bresennol “wedi dod i’w therfyn” ac na allai “ddal y genedl yn wystlon”.