Mae’n ymddangos y bydd y gwrthbleidiau yn San Steffan yn fodlon gydag etholiad cyffredinol cyn y Nadolig, os y bydd estyniad Brexit yn cael ei ganiatau.

Mae Boris Johnson eisoes wedi addo gwthio am etholiad wedi i’w ymdrechion i gael ei gytundeb Brexit drwy Dŷ’r Cyffredin o fewn tridiau, fethu.

Mewn cyfarfod rhwng Boris Johnson a Jeremy Corbyn heddiw (dydd Mercher, Hydref 23) i drafod amserlen newydd, mae’n ymddangos na lwyddodd y ddau i gytuno ar ffordd ymlaen.

Mae’n debyg fod Jeremy Corbyn wedi dweud y byddai Llafur “yn cefnogi etholiad cyffredinol pan fydd y bygythiad o Brexit heb gytundeb ddim ar y bwrdd”.

Yn y cyfamser, mae aelod blaenllaw o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud fod y blaid honno “ddim ofni etholiad cyffredinol”.