Mae dau lanc 17 oed wedi cael eu trywanu i farwolaeth ym Milton Keynes.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn canol nos neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 20).
Bu farw un yn y fan a’r lle, a’r llall yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Mae teulu’r ddau wedi cael gwybod.
Mae dau ddyn arall yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty, ond dydy eu bywydau ddim mewn perygl.
Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn, ond mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.