Gallai’r Democratiaid Rhyddfrydol gefnogi cytundeb Boris Johnson os bydd refferendwm

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jo Swinson, wedi dweud y gallai ei phlaid gefnogi cytundeb Boris Johnson os yw’n cael ei roi i’r bobol mewn refferendwm.

Mae’r Prif Weinidog angen cefnogaeth yn y Senedd os yw am gael ei gytundeb drwy’r Tŷ Cyffredin.

Mae Jo Swinson wedi dweud wrth BBC Radio 4 nad oes “yr un cytundeb yn well na’r un sydd ganddon nu eisoes gyda’r Undeb Ewropeaidd felly, wrth gwrs, dydan ni ddim yn gefnogol i unrhyw gytundeb.

“Ond yr hun rydym ni eisiau i ddigwydd ac yr hyn rydym wedi dadlau drosto ers tair blynedd, yw y dylai unrhyw gytundeb gael ei roi gerbron y bobol.”