Mae’n “warthus” fod yna amheuon am ymddygiad rhywiol yr Arglwydd Leon Brittan adeg ei farwolaeth, yn ôl y Farwnes Shami Chakrabarti, twrnai cyffredinol Llafur.

Fe gafodd ei gyhuddo ar gam o fod yn aelod o gylch o bedoffiliaid yn San Steffan, ac fe fu farw cyn i’r cyhuddiadau ffug ddod i’r amlwg.

Mae ei wraig wedi beirniadu Tom Watson, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, am “gamddefnyddio’i swydd gyhoeddus” i ailadrodd y cyhuddiadau mewn modd “diofal”.

Yn ôl y Farwnes Chakrabarti, dydy Tom Watson ddim yn dweud ei fod yn euog nac yn ddieuog, ond ei fod e am weld ymchwiliad trylwyr yn cael ei gynnal.

“Byddwn i’n dweud wrth y Fonesig Brittan fy mod yn teimlo drosti hi a’i theulu,” meddai’r Farwnes Chakrabarti.

“Fy nealltwriaeth i yw na ddylai’r Arglwydd Brittan fod wedi marw gyda’r cysgod hwn trosto.

“Mae’n beth gwarthus.”

Mae’n dweud fod angen edrych eto ar honiadau bod plismyn wedi camarwain ynadon er mwyn sicrhau’r hawl i chwilio eiddo.

“Dw i’n meddwl mai dyna un o’r honiadau mwyaf difrifol i godi.”