Mae Boris Johnson wedi dweud wrth Aelodau Seneddol bod ei gynigion Brexit yn ymgais i “bontio’r hollt” gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Iau, Hydref 3), dywedodd y Prif Weinidog nad yw’r cynigion yn bodloni ei holl ddyheadau, ond maen nhw’n well nag “aros yn garcharor” i’r sefyllfa bresennol.
Roedd hefyd yn cydnabod bod gan wledydd Prydain “dipyn o ffordd i fynd” cyn dod o hyd i ddatrysiad ar Brexit, ond mae wedi galw ar Aelodau Seneddol i “ddod ynghyd” i gefnogi’r cynllun newydd.
“Roedd hi wastad yn fwriad gan y Llywodraeth i adael gyda chytundeb, ac mae’r cynigion adeiladol a rhesymol hyn yn dangos difrifoldeb y pwrpas hwnnw,” meddai Boris Johnson.
Beth yw’r cynllun?
Yn ôl cynigion Boris Johnson, fe fydd Gogledd Iwerddon yn gadael undeb tollau’r Undeb Ewropeaidd gyda gweddill gwledydd Prydain ar ddechrau 2021.
Ond bydd Gogledd Iwerddon – gyda sêl bendith Stormont – yn dal i weithredu cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a rhai cynnyrch eraill, gyda chynulliad y wlad yn cael cyfle i bleidleisio ar y mater bob pedair blynedd.
O ran gwiriadau tollau ar gynnyrch fydd yn croesi rhwng gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd, gobaith Boris Johnson yw gweld gwaith papur yn cael ei gyflwyno ar ffurf electronig, a bod yna “nifer bychan iawn” o wiriadau corfforol.
Bydd y gwiriadau hyn, meddai, yn digwydd y tu hwnt i’r ffin ei hun, a hynny ar leoliad y busnesau neu “ar bwynt arall yn y gadwyn gyflenwi”.
Ymateb oeraidd
Fe allai ymgais Boris Johnson i gadw Gogledd Iwerddon yn atebol i reolau’r farchnad sengl, ond ddim yn rhan o’r undeb tollau, daro’r nodyn anghywir yn Ewrop.
Mae Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, a Taoiseach Iwerddon, Leo Varadkar, eisoes wedi dweud eu bod yn pryderu y gallai’r cynigion fynd yn groes i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith, sy’n nodi bod angen ffin agored rhwng y ddwy Iwerddon.
Yn ôl Leo Varadkar, dyw’r cynigion ddim yn cyd-fynd ag amcanion y ‘backstop’ – a oedd yn rhan o gytundeb Brexit Theresa May. Dywedodd Jean-Claude Juncker fod gan y gynigion rai “pwyntiau problematig”.
Mae cyd-gysylltydd Brexit yr Undeb Ewropeaidd, Guy Verhofstadt, wedi dweud yn ddiflewyn-ar-dafod ei bod hi “bron yn amhosib” i gytuno â’r cynigion.
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, hefyd wedi disgrifio’r cynigion fel “cytundeb byrbwyll”, cyn atseinio pryderon yr Undeb Ewropeaidd ynghylch Cytundeb Dydd Gwener y Groglith.