Mae aelodau seneddol yn paratoi i ddychwelyd i San Steffan yn dilyn y dyfarniad fod Boris Johnson wedi torri’r gyfraith wrth brorogio’r senedd.

Mae’r gwrthbleidiau’n galw ar brif weinidog Prydain i ymddiswyddo yn sgil yr helynt ynghylch ei gynlluniau ar gyfer Brexit, ychydig dros fis cyn y dyddiad ymadael ar Hydref 31.

Mae Downing Street yn dweud na fydd e’n camu o’r neilltu ar ôl cynghori’r Frenhines i brorogio’r senedd am bum wythnos, gyda rhai yn beirniadu’r modd y cafodd hithau ei llusgo i ganol y ddadl.

Mae Boris Johnson yn parhau i fynnu y bydd Brexit yn digwydd erbyn Hydref 31, gan ddweud y byddai’n parchu dyfarniad y llys er nad yw’n cytuno â fe.

Mae e hefyd yn rhybuddio’r rheiny sydd o blaid aros i beidio â cheisio atal Brexit.

Mae disgwyl iddo annerch San Steffan yn ddiweddarach heddiw (dydd Mercher, Medi 25), ond fydd dim Sesiwn Holi’r Prif Weinidog, sydd fel arfer yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher.

Serch hynny, fe fydd cyfle i aelodau seneddol gynnig cwestiynau brys, datganiadu gweinidogol a cheisiadau ar gyfer dadleuon brys.

Dydy hi ddim yn glir eto a yw Boris Johnson wedi ymddiheuro wrth y Frenhines am yr helynt, ond mae’r gwrthbleidiau’n benderfynol o ddwyn y prif weinidog i gyfrif am brorogio’r senedd.