O’r holl fygythiadau brawychol mae’r Deyrnas Unedig yn ei hwynebu, eithafiaeth asgell dde sydd yn tyfu cyflymaf, yn ôl heddlu.

Mae 22 cynllwyn asgell dde eithafol wedi cael eu rhwystro ers mis Mawrth 2017, ac mae 10% o ymchwiliadau i frawychiaeth yn gysylltiedig â’r ideoleg yma.

Yn ôl pennaeth gwrth-frawychiaeth y Deyrnas Unedig, Neil Basu, mae’r bygythiad yn “fach” ond dyma yw’r “broblem dw i’n ei wynebu sy’n tyfu gyflymaf”.

Mae bygythiad Islamiaeth eithafol yn “parhau’r un peth” ond mae’n dal i fod “ar lefel uchel iawn”, meddai.

Cynnydd

“Er gwaetha’r cynnydd, mae brawychiaeth asgell dde yn parhau’n ganran eitha’ bach o’r hyn rydym yn delio ag ef,” meddai.

“Ond mae bron i draean o’r cynllwynion a gafodd eu rhwystro gan heddlu a gwasanaethau diogelwch ers 2017 yn gysylltiedig ag ideoleg asgell dde.

“Ac mae hynny’n dangos pam ein bod yn cymryd hyn o ddifri. Fel canran o’r holl fygythiadau rydym yn eu hwynebu mae’r bygythiad yn bendant yn cynyddu.”