Mae David Cameron, cyn-Brif Weinidog Prydain, wedi ymddiheuro am achosi rhwyg yn sgil Brexit, gan ddweud ei fod yn meddwl am yr ansicrwydd “bob dydd” ac yn gofidio am y dyfodol.
Rhagflaenydd Theresa May oedd wrth y llyw adeg rhoi’r hawl i gynnal refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.
Daw ei sylwadau mewn cyfweliad â’r Times ar drothwy cyhoeddi ei hunangofiant yr wythnos nesaf.
Mae’n dweud nad oes modd diystyru cynnal ail refferendwm, ac yn lladd ar Boris Johnson, y prif weinidog presennol, a Michael Gove am eu rhan yn yr ymgyrch tros adael.
Mae’n cyhuddo’r ddau o “adael y gwirionedd gartref” wrth drafod Twrci’n ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, a’r ffigwr dadleuol o £350m a gafodd ei grybwyll adeg y refferendwm.
“Mae yna rai na fyddan nhw fyth yn maddau i fi am ei gynnal neu am fethu â sicrhau’r canlyniad ro’n i’n chwilio amdano, sef fod Prydain yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd ddiwygiedig,” meddai wrth drafod y refferendwm.
“Dw i’n difaru’r canlyniad yn fawr ac yn derbyn bod fy null wedi methu.
“Cyfrannodd y penderfyniadau wnes i at y methiant hwnnw. Fe wnes i fethu.”