Mae Boris Johnson yn wynebu pwysau i alw senedd San Steffan yn ôl, wedi iddo gael ei orfodi i ddatgelu goblygiadau Brexit heb fargen.
Yn dilyn pleidlais gan Aelodau Seneddol, bellach mae’r Prif Weinidog wedi gorfod rhyddhau asesiadau ‘Ymgyrch Yellowhammer’ y Llywodraeth, ac mae eu cynnwys wedi denu cryn ymateb.
Mae’r dogfennau’n darogan y byddai’r Deyrnas Unedig yn profi prinder meddyginiaethau, a chynnydd prisiau bwyd yn sgil Brexit heb fargen.
Maen nhw hefyd yn rhagweld y bydd masnach tros y Sianel yn cael ei “aflonyddu cryn dipyn am hyd at chwe mis”, a bod y cyhoedd yn mynd i orfod talu “tipyn yn rhagor” am drydan.
“Risgiau difrifol”
“Mae’r dogfennau yn cadarnhau y daw risgiau difrifol â Brexit heb fargen – rhywbeth mae Llafur wedi gweithio’n galed i’w wrthwynebu,” meddai’r Ysgrifennydd Brexit Cysgodol, Keir Starmer.
“Mae’n bwysicach nag erioed o’r blaen bod y senedd yn cael ei ail-alw ac yn cael cyfle i graffu ar y dogfennau yma, ac yn cymryd y camau sydd eu hangen er mwyn stopio Brexit heb fargen.”
Cafodd y senedd ei diddymu dros dro ar nos Lun (Medi 9) er gwaetha’r gwrthwynebiad gan Aelodau Seneddol, a fyddan nhw ddim yn dychwelyd tan Hydref 14.