Mae ymchwilwyr wedi rhybuddio bod y Deyrnas Unedig ar waelod y tabl o ran goroesi canser yng ngwledydd cyfoethoca’r byd.
Tra bod nifer y bobl sy’n goroesi canser yn gwella ar draws y Deyrnas Unedig mae’n dal i berfformio waethaf ar gyfer rhai mathau o ganser allweddol fel canser y coluddyn, yr ysgyfaint a’r pancreas.
Mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd i’r afael a phrinder staff a diagnosis hwyr, yn ol Ymchwil Canser y Deurnas Unedig oedd yn gyfrifol am y gwaith ymchwil sydd wedi cael ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Lancet Oncology.
Roedd yr astudiaeth wedi edrych ar 3.9 miliwn o achosion canser rhwng 1995 a 2014 mewn saith gwlad sydd ag incwm uchel gyda gofal iechyd i bawb, sef Awstralia, Canada, Denmarc, Iwerddon, Seland Newydd, Norwy a’r Deyrnas Unedig.
Roedd y data wedi edrych ar saith math o ganser – canser yr esoffagws, y stumog, y coluddyn, y rectwm, pancreas, ysgyfaint a’r ofari.
Roedd yn dangos bod nifer y cleifion sy’n goroesi’r saith math o ganser blwyddyn ar ol diagnosis ac ar ol pum mlynedd, wedi gwella yn y Deyrnas Unedig dros yr 20 mlynedd ddiwethaf. Mae nifer y bobl sy’n goroesi canser y coluddyn ar ol pum mlynedd wedi cynyddu 12%.
Ond mae’n dal ar waelod y tabl ar gyfer pump o’r saith math o ganser.
Rhwng 2010 a 2014 roedd gan y Deyrnas Unedig y gyfradd isaf o ran goroesi canser y stumog ar ol pum mlynedd – 20.8% – o’i gymharu ag Awstralia gyda’r gyfradd uchaf ar 32.8%.
Yn Awstralia mae 70.8% o gelifion yn goroesi am o leiaf bum mlynedd ar ol diagnosis o ganser y coluddyn – yn y Deyrnas Unedig y ffigwr yw 58.9%.
Canser y pancreas oedd a’r gyfradd isaf yn nifer y cleifion sy’n goroesi ar ol pum mlynedd – o 7.9% yn y Deyrnas Unedig, i 14.6% yn Awstralia.
Yn ol awduron yr astudiaeth mae’r gwahaniaethau rhwng y gwledydd yn ddibynol yn bennaf ar ba mor gyflym mae cleifion yn cael diagnosis ac wedyn yn cael triniaeth effeithiol.
Dywedodd ymgynghorydd clinigol Ymchwil Canser y Deyrnas Unedig
John Butler: “Tra ein bod ni’n dal i ymchwilio i’r hyn y gellir ei wneud i leihau’r bwlch rhwng y gwledydd o ran nifer y bobl sy’n goroesi, ry’n ni’n gwybod bod buddsoddiad mewn diagnosis cynnar a gofal canser yn chwarae rhan allweddol.
“Er gwaetha’r newidiadau, ry’n ni wedi gwneud cynnydd arafach na’r gweddill.”
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithas bod cyfraddau goroesi canser ar eu lefel uchaf “ond rydym yn benderfynol o fynd ymhellach ac achub rhagor o fywydau.”