Mae Geoffrey Boycott yn dweud nad yw’n “poeni taten” am y ffrae sydd wedi’i chynnau yn sgil ei wneud yn farchog.

Mae ymgyrchwyr trais ddomestig wedi beirniadu penderfyniad y cyn-Brif Weinidog, Theresa May, i anrhydeddu’r cyn-gricedwr a gafodd ei ddedfrydu yn Ffrainc yn 1998 ar ôl ymosod ar ei gariad mewn gwesty.

Yn ôl prif weithredwr dros dro Women’s Aid, Adina Claire, mae’r anrhydedd yn “hynod siomedig”.

Ond wrth ymateb i’w feirniad ar raglen Today ar BBC Radio 4 y bore yma (dydd Mawrth, Medi 10), dywedodd Syr Geoffrey Boycott, 78, wrth y gyflwynwraig, Martha Kearney:

“Dydw i ddim yn poeni taten amdani, cariad. Mae[‘r ddedfryd] 25 mlynedd yn ôl. Felly fe allwch chi gymryd eich natur wleidyddol a gwneud beth a fynnwch â hi.

“Rydych chi eisiau i fi sôn am fy ngradd marchog, ac mae’n braf eich bod chi wedi fy ngwahodd. Ond, [am y beirniaid], dydw i ddim yn poeni taten.”

“Neges beryglus”

Ychydig cyn i Syr Geoffrey Boycott ymateb, fe ddywedodd Adina Claire fod ei anrhydeddu yn “anfon neges beryglus na ddylai trais ddomestig gael ei hystyried yn drosedd ddifrifol.”

Ychwanega: “Yn sgil cynnydd sylweddol yn yr ymwybyddiaeth am drais ddomestig, yn ogystal â Bil Trais Ddomestig yn barod i’w chymryd gan y Llywodraeth, mae’n hynod siomedig bod gradd marchog wedi cael ei hargymell i Geoffrey Boycott, sydd wedi cael ei farnu’n euog o drais ddomestig.”