Mae un o gyflenwyr ynni adnewyddadwy mwyaf gwledydd Prydain wedi ysgrifennu at y Canghellor i rybuddio y gallai cynlluniau i newid TAW o 5% i 20% i deuluoedd sy’n prynu paneli solar a thechnoleg adnewyddadwy effeithio ar faint o bobol fydd yn troi at ynni gwyrdd.
Mae Juliet Davenport, prif weithredwr a sylfaenydd Good Energy – sydd â thua 250,000 o gwsmeriaid – wedi galw ar Sajid Javid i gael gwared ar y cynlluniau, sydd i ddod i rym ar Hydref 1.
Mae gan y llythyr gefnogaeth Nina Skorupska, prif weithredwr y Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy; Alice Bell o 10:10 Climate Action; nghyd ag Aaron Kiely, arweinydd ymgyrch hinsawdd yn Cyfeillion y Ddaear.
Mae deiseb ar y mater wedi denu mwy na 17,000 o lofnodion.