Mae Boris Johnson wedi colli ei ail gynnig am etholiad cyffredinol brys, wrth i bethau droi’n flêr yn Nhŷ’r Cyffredin nos Lun (Medi 9).
Yn dilyn y bleidlais gan ohiriad y Senedd yn oriau mân ddydd Mawrth, gyda rhai Aelodau Seneddol Llafur yn dal arwyddion yn dwyn y gair “distewi” ac yn gweiddi “cywilydd arnat ti” wrth i bethau boethi.
Roedd yn ymddangos bod aelod Brighton, Lloyd Russell-Moyle, yn ceisio dal gafael yn y Llefarydd John Bercow ar y pwynt y gofynnwyd iddo arwain Aelodu Seneddol at yr Arglwyddi.
Mae’r gohiriad, sy’n atal y Senedd am bump wythnos, yn gwneud etholiad cyffredinol yn annhebygol iawn tan ganol mis Tachwedd o leiaf.
Pleidleisiodd Aelodau Seneddol o 293 i 46, yn brin o’r mwyafrif o ddwy ran o dair yr oedd ei angen, i danio etholiad brys.
Mynnodd y Prif Weinidog na fyddai’n gofyn eto am ymestyn dedlein Brexit.