Mae Amber Rudd yn dweud iddi adael Cabinet Llywodraeth Prydain tros ddiffyg cynllunio ar gyfer Brexit, a’r “bwriad” i adael heb gytundeb.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC heddiw (dydd Sul, Medi 8) iddi weld tudalen yn unig o dystiolaeth fod yna drafod rhwng y llywodraeth a’r Undeb Ewropeaidd.

“Dw i ddim wedi gweld digon o waith ar y gweill i geisio sicrhau cytundeb,” meddai ar ôl cyhoeddi ei bod yn rhoi’r gorau i fod yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau ac yn gadael y blaid er mwyn dod yn aelod seneddol annibynnol.

“Pan wnes i ofyn i Rif 10 am grynodeb o’r cynllun er mwyn cael cytundeb, wnaethon nhw anfon crynodeb un dudalen ata’i.

“Dw i yn credu ei fod e [Boris Johnson] yn ceisio cael cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd, y cyfan dw i’n dweud yw mai’r hyn dw i wedi’i weld yn y llywodraeth yw fod yna beiriant mawr yn paratoi ar gyfer dim cytundeb.”

Mae’n dweud bod y diffyg amser sydd wedi cael ei dreulio’n trafod wedi arwain ei chydweithwyr i “wrthryfela”, a bod “angen i fi ymuno â nhw”.