Mae cwmni tafarnau Wetherspoon yn gostwng pris eu cwrw – ar gyfartaledd bydd cwsmeriaid yn talu 20 ceiniog yn llai am beint.
Yn ôl Cadeirydd y cwmni mae’r gostyngiad yn enghraifft o sut y gall gadael yr undeb dollau a’r Undeb Ewropeaidd arwain at dalu llai am fwyd, diod a nwyddau eraill.
Mae Tim Martin, sy’n gefnogwr brwd o Brexit ac yn gosod baneri Jac yr Undeb yn nhafarnau Wetherspoon, yn dadlau y bydd gadael yr undeb dollau ar Hydref 31 yn galluogi’r Llywodraeth i gael gwared ar “dollau amddiffynnol”, gan arwain at archfarchnadoedd a thafarndai yn gostwng eu prisiau.
Fel rhan o’r stỳnt cyhoeddusrwydd sy’n cychwyn heddiw (dydd Gwener, Medi 6), fe fydd 600 o dafarnau Wetherspoon yn gwerthu peint o Ruddles am £1.69, tra bo 160 o dafarnau yn ei werthu am £1.59 neu’n llai.
Bydd tua 36 wedyn yn gwerthu’r peint am £1.39.
Y math penodol hwn o gwrw yw’r un mwyaf poblogaidd yn nhafarndai Wetherspoon, yn ôl y cwmni.
Gwin Prydeinig
Dyma’r symudiad diweddara sy’n ymwneud â Brexit gan Wetherspoon, sydd wedi dangos cefnogaeth tros adael yr Undeb Ewropeaidd drwy werthu mwy o winoedd Prydeinig ac Awstralaidd yn hytrach na rhai Ewropeaidd.
“Ar y funud mae busnesau a chwsmeriaid yn talu tariffiau ar filoedd o nwyddau sy’n cael eu mewnforio o du allan i’r Undeb Ewropeaidd,” meddai Tim Martin.
“Mae’r tariffiau sy’n cael eu casglu gan Brydain yn cael eu hanfon i Frwsel. Cyn belled ein bod yn gadael yr Undeb Dollau ar Hydref 31, gall y llywodraeth ddod â therfyn i hyn wnaiff olygu gostwng prisiau mewn archfarchnadoedd a thafarndai.”
“Er mwyn pwysleisio’r pwynt yma, mae Wetherspoon wedi penderfynu gostwng pris y chwerw Ruddles, sy’n cael ei fragu gan Greene King. Mae llawer o wleidyddion wedi awgrymu fod gadael yr Undeb Dollau yn ‘drychineb’ ond y gwrthwyneb sy’n wir. Byddai rhoi terfyn ar dariffiau yn gostwng prisiau.”
Y prisiau yng Nghymru
Mae gan Wetherspoon 51 o dafarndai yng Nghymru a’r rhan fwyaf ohonyn nhw ymhlith y 710 a fydd yn gwerthu peint o chwerw Ruddles am naill ai £1.69 neu £1.59.
Yr unig eithriadau yw’r Olympia yn Nhredegar, y Picture House yng Nglyn Ebwy, a’r Sussex yn y Rhyl – mae’r tafarnau hyn bellach yn gwerthu’r peint am £1.39.
Y Ruddles drutaf, fodd bynnag, yw’r un yn nhafarn y Mount Stuart yng Nghaerdydd, sy’n costio £1.99.