Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi cael ei rybuddio na fydd dim dewis gan Brydain ond talu bil o £39 miliwn wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd Boris Johnson wedi honni na fyddai’r £39 biliwn yn ddyledus i’r UE pe na bai cytundeb, ac y byddai ‘symiau sylweddol iawn’ o arian ar gael i’w wario mewn sefyllfa o’r fath.
Ond yn ôl ffigurau blaenllaw ym Mrwsel, byddai methu â thalu’r ddyled n niweidio trafodaethau masnach rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.
“Dylai pob ymrwymiad a wnaed gan y 28 aelod-wladwriaeth gael eu anrhydeddu,” meddai Mina Andreeva, llefarydd ar ran y Comisiwn Ewropeaidd.
“Mae hyn yn arbennig o wir hefyd mewn senario di-gytundeb, lle byddai disgwyl i’r Deyrnas Unedig barhau i anrhydeddu unrhyw ymrwymiadau a wnaeth fel aelod o’r UE.”
Yr un oedd neges Guy Verhofstadt, cydlynydd Brexit Senedd Ewrop:
“Os nad yw’r Deyrnas Unedig yn talu’r hyn sydd ddyledus, nid fydd yr Undeb Ewropeaidd yn trafod cytundeb masnach,” meddai.
“Dyma fydd amod gyntaf unrhyw drafodaethau ar ôl ymadawiad di-gytundeb. Mae Prydain yn well na hyn.”