Bydd dros ddwy filiwn o bobol yn gadael gwledydd Prydain tros y penwythnos ac yn mynd ar wyliau i wlad tramor, yn ôl sefydliad masnach.
Yr Ynysoedd Balearaidd, Sbaen, Groeg, a’r Eidal yw rhai o’r lleoliadau mwyaf poblogaidd i’r rheiny a fydd yn manteisio ar y penwythnos gŵyl banc, yn ôl Abta.
Ond mae’n debyg bod lleoliadau llawer pellach i ffwrdd, gan gynnwys Efrog Newydd, Toronto a Dubai, hefyd yn dra phoblogaidd.
Ffoi rhag y tywydd
“Roedd dechrau’r mis yn wlyb ac yn wyntog,” meddai Prif Weithredwr Abta, Mark Tanzer.
“Felly does dim syndod bod pobol wedi trefnu gwyliau i wledydd tramor sydd â thywydd sychach a chynhesach…
“Mae’r heolydd a’r rhwydweithiau trenau yn debygol o fod yn brysur tu hwnt, felly os ydych yn bwriadu teithio gwnewch yn siŵr eich bod yn [ymwybodol o hynny].