Mewn araith yn Corby, Northampton, heddiw (dydd Llun, Awst 2019) mae arweinydd y Blaid Lafur wedi addo y byddai etholiad cyffredinol yn rhoi cyfle “unwaith mewn cenhedlaeth” i bobol newid cyfeiriad gwleidyddiaeth y wlad.

Yn ôl Jeremy Corbyn mae’r Torïaid wedi camu i’r “asgell dde bell” o dan Boris Johnson, ac mai cytundeb Brexit ar gyfer Donald Trump fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Mae’n dweud y byddai’n “gwneud popeth” yn ei allu i atal Brexit heb fargen wrth sôn am ei weledigaeth ar ailadeiladu gwledydd Prydain.

Daw’r araith yn dilyn methiant Jeremy Corbyn i ddod yn brif weinidog dros dro i atal Brexit heb fargen wythnos ddiwethaf ar ôl i’r Democratiaid Rhyddfrydol a Thorïaid sydd eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd beidio â’i gefnogi.

“Ni all pethau fynd ymlaen”

“Er mai Brexit yw fframwaith yr argyfwng sy’n ein hwynebu, mae’r problemau sy’n wynebu ein gwlad yn mynd yn llawer dyfnach,” meddai Jeremy Corbyn wrth aelodau’r Blaid Lafur.

“Bydd etholiad cyffredinol a ysgogwyd gan argyfwng Brexit y Torïaid yn groesffordd i’n gwlad. Bydd yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i newid cyfeiriad go iawn, o bosibl ar raddfa 1945 neu 1979. Ni all pethau fynd ymlaen fel yr oeddent o’r blaen. “

Fe gyhuddodd Jeremy Corbyn y Torïaid o “fethu gwledydd Prydain” gan ddweud mai Boris Johnson a’i gabinet asgell dde sydd yn gyfrifol am “ddegawd o ddifrod difrifol i’n cymunedau.”

Dywedodd nad yw’r Gwasanaeth Iechyd ar werth ac fe rybuddiodd am fygythiad cwmnïau meddygol preifat Americanaidd fyddai’n cyrraedd heb fargen Brexit.

Etholiad Cyffredinol

“Mae Llafur yn credu bod yn rhaid i’r penderfyniad ar sut i ddatrys argyfwng Brexit fynd yn ôl at y bobol,” meddai Jeremy Corbyn.

“Os bydd etholiad cyffredinol yr hydref hwn, byddai Llafur yn ymrwymo i gynnal pleidlais gyhoeddus, i roi’r gair olaf i bleidleiswyr, gydag opsiynau credadwy i’r ddwy ochr, gan gynnwys yr opsiwn i aros.”

Byddai Llafur yn canolbwyntio ar leihau anghydraddoldeb a gwella gwasanaethau cyhoeddus, meddai. Dywedodd y byddai corfforaethau mawr yn talu trethi uwch, ac yn cyflwyno cyflog byw o £10 yr awr i bobol ifanc.

Dywedodd hefyd y byddai’r blaid yn cael gwared ar ffioedd prifysgolion a cholegau.