Mae’r chwilio’n parhau am fachgen chwech oed a gwympodd i mewn i afon yng Nghaint brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Awst 17).

Roedd Lucas Dobson yn pysgota gyda’i deulu yn ardal Sandwich pan gwympodd i mewn i afon Stour.

Neidiodd ei dad i mewn i’r afon ond roedd y llif yn rhy gryf iddo fe, ac fe gafodd ei fab ei lusgo oddi yno.

Fe fu’r fyddin yn cynorthwyo’r ymdrechion i chwilio amdano, ond fe ddaeth y chwilio i ben yn y tywyllwch neithiwr.

Mae gwirfoddolwyr yn cael eu rhybuddio i gadw draw o’r afon ac i beidio â mynd yno ar eu pennau eu hunain heb ffôn symudol.