Mae sefydliadau a grwpiau yn poeni am y defnydd o gamerâu adnabod wyneb mewn lleoliadau ar draws gwledydd Prydain.

Yn ôl ymchwil, mae’r dechnoleg wedi cael ei ddefnyddio mewn canolfannau siopa, amgueddfeydd a chanolfannau cynhaledd.

Mae’r grŵp rhyddid sifil Big Brother Watch, oedd yn gyfrifol am yr ymchwil, wedi labelu’r defnydd fel “epidemig” a dywed fod ei ddefnydd mewn safleoedd preifat yn bryderus iawn.

Dywed y grŵp fod canolfan siopa Meadowhall yn Sheffield wedi cynnal treialon o’r dechnoleg y llynedd, tra bod Amgueddfa’r Byd yn Lerpwl a chanolfan gynadledda Millennium Point yn Birmingham hefyd wedi’u henwi yn ei ymchwiliad fel lleoliadau.

Ddoe (dydd Iau, Awst 16) cyhoeddodd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth y byddai’n lansio ei ymchwiliad ei hun i’r defnydd o gamerâu adnabod wynebau ar ôl datgelu bod sganwyr yn cael eu defnyddio yn ardal King’s Cross yn Llundain.

Dywedodd y corf, sy’n gwarchod data a phreifatrwydd yng ngwledydd Prydain, ei fod yn “poeni’n fawr am y defnydd cynyddol o dechnoleg adnabod wynebau mewn mannau cyhoeddus.”

Fframwaith cyfreithiol

Dywedodd Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin fis diwethaf y dylai awdurdodau roi’r gorau i brofi’r dechnoleg nes bod fframwaith cyfreithiol yn cael ei sefydlu.

Dywedodd Aelodau Seneddol bod y diffyg deddfwriaeth yn cwestiynu sail gyfreithiol y profion.

Mewn adroddiad ar agwedd y Llywodraeth tuag at fiometreg a fforensig, cyfeiriodd yr ASau at brofion adnabod wynebau awtomatig gan yr Heddlu Metropolitan a Heddlu De Cymru.