Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud bod dau aelod blaenllaw o’r Blaid Geidwadol a Llafur, Ken Clarke a Harriet Harman, yn barod i arwain llywodraeth frys er mwyn osgoi Brexit heb gytundeb.

Wrth siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4, dywedodd Jo Swinson ei bod wedi siarad a’r ddau Aelod Seneddol “mwyaf profiadol yn Nhy’r Cyffredin.”

Ychwanegodd: “Maen nhw wedi rhoi dyletswydd cyhoeddus yn gyntaf a dydyn nhw ddim am weld Brexit heb gytundeb ac os ydy Ty’r Cyffredin yn gofyn iddyn nhw arwain llywodraeth frys er mwyn cael ein gwlad allan o’r llanast Brexit yma a’n hatal rhag mynd oddi ar y dibyn tuag at dim cytundeb, yna maen nhw’n barod i wneud hynny.”

Meddai wedyn ei bod yn barod i drafod gyda Jeremy Corbyn i weld a oes ganddo awgrymiadau eraill am “Aelod Seneddol profiadol sy’n ennyn parch yn Nhy’r Cyffredin.”

“Rydw i wastad wedi bod eisiau trafod gydag e [Jeremy Corbyn] a dw i’n credu bod deialog yn bwysig iawn rhwng unrhyw un sydd eisiau atal Brexit heb gytundeb,” meddai Jo Swinson.

“Dw i’n credu bod yn rhaid canolbwyntio ar sut y gallwn ni lwyddo i atal dim cytundeb oherwydd mae’r cloc yn tician. A dw i’n credu ei fod yn beth da i siarad gyda phleidiau eraill a dw i’n gwneud hynny. Dw i wedi bod yn gwneud drwy gydol yr haf ac, wrth gwrs, roeddwn i wedi annog Jeremy Corbyn i gyflwyno pleidlais o ddifyg hyder cyn gwyliau’r haf, ond wnaeth e ddim.”

Dywedodd mai’r cam nesaf fyddai pasio deddfwriaeth yn galw am estyniad i Erthygl 50 er mwyn cynnal pleidlais y bobl neu’r posibilrwydd o ffurfio llywodraeth frys.