Fe fydd barnwr yn penderfynu heddiw (dydd Mawrth, Awst 23) os bydd her gyfreithiol gyda’r bwriad o atal Boris Johnson rhag gorfodi Brexit heb fargen drwy ohirio’r Senedd yn y llys cyn Hydref 31.
Mae’r her, sydd wedi cael ei chefnogi gan dros 70 o Aelodau Seneddol, yn galw ar y Cwrt Sesiynau yng Nghaeredin i ddatgan fod gohirio’r Senedd i wneud hyn yn “anghyfreithlon ac yn anghyfansoddiadol”.
Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno yn Llys Caeredin, ac fe gafodd yr hawl i gael ei chlywed gan farnwr.
Fe fydd y gwrandawiad cychwynnol yn cael ei gynnal gerbron yr Arglwydd Doherty yn Llys y Sesiwn fore heddiw i greu amserlen ar bryd fydd yr her gyfreithiol yn dod i ben.
Mae’r Prif Weinidog wedi addo tynnu gwledydd Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd gyda neu heb fargen erbyn Hydref 31 – sef diwrnod olaf Erthygl 50 estynedig – gan honni y bydd yn “adfer ymddiriedaeth yn ein democratiaeth”.
Cafodd y cais cyfreithiol ganiatâd i fynd ymlaen yn llysoedd yr Alban, gydag ymgyrchwyr gwrth-Brexit yn pwysleisio brys yr achos oherwydd dyddiad cau Calan Gaeaf