Mae cenedlaetholdeb yn rhwygo’r Deyrnas Unedig, yn ôl Gordon Brown, y cyn-Brif Weinidog Llafur, sy’n dweud bod y deyrnas bellach yn “rhanedig, anoddefgar a mewnblyg”.
Mae’n dweud bod y deyrnas yn un a oedd yn arfer cael ei hedmygu am fod yn gynhwysol ac allblyg, ond bod hynny wedi newid.
Daw ei sylwadau wythnosau’n unig ar ôl i Boris Johnson olynu Theresa May yn brif weinidog.
“Mae cenedlaetholdeb Seisnig ar gynnydd, mae’r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol wedi’i hailymgnawdoli fel y Blaid Geidwadol a Brexit, ac mae undebaeth yn ymddangos fel pe bai’n cerdded yn ei chwsg tuag at ebargofiant,” meddai mewn colofn yn yr Observer.
Diffyg synnwyr cyffredin
Mae’n dweud hefyd fod y Deyrnas Unedig wedi cefnu ar synnwyr cyffredin er mwyn cefnu hefyd ar ei buddiannau ei hun.
Ac mae’n rhybuddio bod cenedlaetholdeb Seisnig yn gyrru’r Deyrnas Unedig tuag at “drychineb economaidd di-gynsail wedi’i gyrru gan ymadawiad heb gytundeb o’r Undeb Ewropeaidd”.
Mae’n dweud bod ymweliadau diweddar Boris Johnson ag amryw rannau o wledydd Prydain wedi gwneud dim i gryfhau’r undeb a’i fod heb “bwrpas unoliaethol sy’n ddigon pwerus i’w chynnal ac i gadw pedwar math o genedlaetholdeb – Albanaidd, Gwyddelig, Seisnig a chynnydd mewn cenedlaetholdeb Cymreig – o’r ffordd.”
Mae hefyd yn lladd ar yr SNP am wthio cenedlaetholdeb Albanaidd pro-Ewropeaidd sydd, meddai, yn anwybyddu’r ffaith y byddai cannoedd o filoedd o swyddi yn y fantol mewn Alban annibynnol.
Daw ei golofn i ben gyda rhybudd na allai Prydeindod allblyg “oroesi rhaniadau ac anhrefn Brexit heb gytundeb”, a bod rhaid atal Brexit heb gytundeb er mwyn atal rhagor o genedlaetholdeb a fyddai’n rhannu’r Deyrnas Unedig.