Rhoddwyd 55 o ynnau a bwledi i Heddlu Dyfed-Powys yn ystod ymgyrch ddiweddar ar gyfer ildio arfau saethu.
Cynhaliwyd Ymgyrch Aztec yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Roedd yr ymgyrch yn rhan o ymdrech genedlaethol bythefnos o hyd i gael gwared ar arfau anghyfreithlon a diangen o’r strydoedd a’u cadw allan o ddwylo troseddwyr. Ymysg yr eitemau a ildiwyd oedd 24 dryll, 14 lot o fwledi, 6 reiffl aer, 5 llawddryll aer, 3 llawddryll, 1 reiffl ac 1 gwn syfrdanu.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jon Cummins, Pennaeth Gweithrediadau Arbenigol Heddlu Dyfed-Powys: “Rydyn ni’n ffodus nad yw troseddau gwn yn rhywbeth rydyn ni’n ymdrin â hwy’n aml yn Heddlu Dyfed-Powys. Fodd bynnag, nid yw gynnau a bwledi’n adnabod ffiniau. Yn ffodus, nid yw’r arfau hyn mewn perygl o syrthio i’r dwylo anghywir bellach.
“Mae un gwn oddi ar y strydoedd un yn llai y gellir ei ddefnyddio i niweidio neu fygwth ein cymunedau. Byddwn ni’n parhau i ddefnyddio’r holl bwerau a gwybodaeth sydd ar gael i ni er mwyn dod o hyd i’r troseddolrwydd hwn a’i atal unwaith ac am byth.”
Ni fydd y rhai a ildiodd arfau a bwledi yn ystod yr amnest yn cael eu herlyn am feddu. Nid yw’r heddlu’n amau bod y gynnau hyn yn gysylltiedig ag unrhyw droseddau, ond byddant yn eu hanfon ar gyfer profion fforensig yn awr. Bydd unrhyw un sy’n cael ei gysylltu â throsedd yn cael ei gadw fel tystiolaeth ar gyfer unrhyw weithdrefnau llys yn y dyfodol, a bydd y gweddill yn cael eu dinistrio.
Ym mis Tachwedd 2017, cyflwynwyd 189 arf saethu a 63 lot o fwledi i Heddlu Dyfed-Powys. Roedd hyn yn cyfrif am 3% o gyfanswm yr eitemau a gyflwynwyd i heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn ystod yr ymgyrch.
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Balisteg Cenedlaethol (NABIS) yn cydlynu ildiadau arfau saethu cenedlaethol. Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n benderfynol o barhau i atal y bygythiad, gan gydweithio â heddluoedd y DU.
“Mae’r ffigurau trosedd diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod troseddau gynnau wedi gostwng yn gyffredinol. O’u cymharu â llefydd eraill yn Ewrop, mae lefelau troseddau gwn yn y DU yn isel iawn, fodd bynnag, ni allwn fod yn hunanfodlon ynglŷn â’r bygythiad parhaus i’n cymunedau gan droseddwyr sydd â mynediad i arfau saethu.
“Mae’r ildiadau hyn yn un ffordd o ddangos i’r cyhoedd ein bod ni’n trin y mater hwn yn ddifrifol iawn. Rydyn ni eisiau cael gwared ar gymaint o arfau saethau anghyfreithlon neu ddi-drwydded â phosibl oddi ar y strydoedd. Gall un gwn yn y dwylo anghywir fod â chanlyniadau trychinebus,” meddai llefarydd ar ran NABIS.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am droseddau gynnau, medrwch gysylltu â’r elusen annibynnol Crimestoppers Cymru yn ddienw drwy alw 0800 555111.