Mae yna wrthdaro mewnol yn y Blaid Lafur tros annibyniaeth i’r Alban.
Heddiw, fe gyhoeddodd y Blaid Lafur yno ei bod yn gwrthod yn llwyr awgrym gan arweinyddiaeth y blaid yn Llundain y bydden nhw’n caniatáu refferendwm annibyniaeth newydd.
“Mae polisi plaid yr Alban yn glir – gwrthwynebu ail refferendwm annibyniaeth,” medden nhw, ar ôl cyfarfod i drafod y pwnc.
Mae hynny’n gwbl groes i ddatganiad gan y darpar Ganghellor Llafur, John McDonnell, a ddywedodd ddydd Mawrth na fyddai Llafur yn rhwystro pleidlais arall.
Mae Llafur yr Alban hefyd yn mynnu mai nhw ddylai benderfynu ar y polisi, gyda’r Blaid Lafur yn Llundain yn derbyn eu barn.
“R’yn ni’n disgwyl i bob Aelod Seneddol a phob un o Aelodau Seneddol yr Alban bleidleisio tros y polisi,” medden nhw.