Mae’r Goruchaf Lys yn ystyried her i benderfyniad gwledydd Prydain i rannu tystiolaeth am ddau frawychwr ISIS honedig gyda’r Unol Daleithiau,.
Mae El Shafee Elsheikh a Alexanda Kotey wedi cael eu cyhuddo o berthyn i gell greulon pedwar dyn o ddienyddwyr IS yn Syria – sydd â’r llysenw The Beatles oherwydd eu hacenion Prydeinig – sy’n gyfrifol am ladd nifer o gaethion proffil uchel y Gorllewin.
Cafodd y ddau eu dal ym mis Ionawr y llynedd, gan danio ffrae yn ymwneud a ble y dylai nhw gael gwrandawiad – yng ngwledydd Prydain neu mewn gwlad arall.
Mewn gwrandawiad mewn Uchel Lys fis Hydref y llynedd, fe heriodd Maha Elgizouli, sef mam El Shafee Elsheikh, benderfyniad yr Ysgrifennydd Gartref bryd hynny, Sajid Javid, i rannu 600 o ddatganiadau tystion gydag awdurdodau’r Unol Daleithiau.
Roedd y dystiolaeth wedi cael ei rannu o dan gytundeb “cyd-gymorth cyfreithiol” heb i’r Ysgrifennydd Cartref ofyn am sicrwydd na fyddai’r dynion yn wynebu cael eu dienyddio pe bydden nhw’n cael eu hestraddodi a’u rhoi ar brawf yn yr Unol Daleithiau.
Gwrthodwyd eu hachos ym mis Ionawr gan ddau farnwr blaenllaw, a ddaeth i’r casgliad nad oedd penderfyniad Sajid Javid yn anghyfreithlon.
Ond mae Maha Elgizouli bellach yn herio’r dyfarniad hwnnw yn y Goruchaf Lys, lle bydd panel o saith ynad yn clywed ei hachos heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 30), a dydd Mercher (Gorffennaf 31).