Dros yr wythnosau nesaf, mi fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dechrau ar y gwaith o recriwtio 20,000 yn rhagor o swyddogion heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Dyma oedd un o addewidion ymgyrch Boris Johnson ac mae disgwyl i’r gwaith recriwtio ddechrau ym mis Medi.
Mae’r Prif Weinidog yn gobeithio bydd y gwaith yma’n cael ei gyflawni o fewn y tair blynedd nesaf.
“Fel y dywedais ar risiau Downing Street yr wythnos hon, fy swydd i yn Brif Weinidog yw gwneud ein strydoedd yn fwy diogel,” meddai.
“Mae pobol eisiau gweld mwy o swyddogion yn eu cymdogaethau, yn amddiffyn y cyhoedd ac yn gostwng troseddu. Mi addawais 20,000 yn rhagor o swyddi, a bydd y recriwtio nawr yn dechrau o ddifri.”
Diwygiadau eraill
Bydd y Llywodraeth yn cynnal adolygiad o gynlluniau peilot ‘stopio a chwilio’ (stop-and-search).
Mae saith llu heddlu yn cynnal y cynlluniau peilot yma ar hyn o bryd, a nod Downing Street yw cyflwyno’r newidiadau i bob llu.
Mae’r cynllun yn ei wneud yn haws i swyddogion heddlu stopio pobol a chynnal chwiliadau.
Diwygiad arall sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth yw sefydlu bwrdd heddlua cenedlaethol newydd.
Yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, fydd cadeirydd y bwrdd, ac un o’i hamcanion fydd sicrhau bod y targed o 20,000 swyddogion yn cael ei wireddu.