Mae arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jo Swinson, wedi diystyru cynnal clymblaid gyda’r Torïaid o dan Boris Johnson.
Mae’n dweud na fyddai’n rhoi’r pŵer i gynnal ail refferendwm annibyniaeth yr Alban.
Dywed ei bod yn “hollol glir” na allai’r Democratiaid Rhyddfrydol weithio gydag unrhyw blaid sy’n cefnogi Brexit a dywedodd y byddai’n well ganddi gael pleidlais y bobol ar aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd i etholiad cyffredinol.
Dywed arweinydd benywaidd cyntaf y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd bod “rheolau gwleidyddiaeth yn cael eu hail-ysgrifennu” a’i bod yn gobeithio cael mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin ar gyfer pleidlais pobl gyda chefnogaeth gweinidogion Torïaidd ac Aelodau Seneddol sydd wedi diystyru gwasanaethu o dan arweiniad Boris Johnson mewn gwrthwynebiad i’w safiad Brexit.