Mae’r ffrae o fewn y Blaid Lafur ynglŷn â gwrth-Semitiaeth wedi dwysáu wrth i rai aelodau blaenllaw ddechrau cwestiynu awdurdod y Dirprwy Arweinydd.

Daw ar ôl i Tom Watson ddweud bod angen i’r Blaid Lafur wneud mwy i ddelio â honiadau o wrth-Semitiaeth,  a oedd yn destun y rhifyn diweddaraf o raglen Panorama ar y BBC.

Mae’r Dirprwy Arweinydd hefyd wedi ysgrifennu llythyr beirniadol at ysgrifennydd cyffredinol y Pwyllgor Cenedlaethol (NEC), Jennie Formby, yn ei chyhuddo o ddileu tystiolaeth oedd yn gysylltiedig â rhai o’r achosion – honiadau y mae hi’n eu gwadu.

Mae Diane Abbot, aelod blaenllaw o Gabinet yr wrthblaid, wedi ymuno â’r rhai sy’n feirniadol o Tom Watson drwy aildrydar cyfres o negeseuon sy’n feirniadol ohono.

Yn eu plith mae un gan gynrychiolydd o’r NEC sy’n beirniadu ymddygiad Tom Watson tuag at Jennie Formby.

“Nid dyma’r ymddygiad sy’n ddisgwyliedig o Swyddfa’r Dirprwy Arweinydd,” meddai Claudia Webbe ar Twitter.

“A ddylech chi ystyried eich safle?”