Mae dau o bobol yn y llys wedi’u cyhuddo o rannu llun post-mortem o’r peldroediwr Emiliano Sala.
Roedd y chwaraewr 28 oed wedi arwyddo i glwb pêl-droed Caerdydd ac ar y ffordd i’r brifddinas pan gafodd ei ladd ar ôl i’w awyren blymio mewn i’r Sianel ar Ionawr 21.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod ar Chwefror 6 a chafodd yr archwiliad post-mortem ei gynnal yn Bournemouth y diwrnod wedyn.
Yn ddiweddarach fuodd Heddlu Wiltshire yn ymchwilio i sut oedd llun o Emiliano Sala o’r post-mortem wedi cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Sherry Bray, 48, a Christopher Ashford, 62, wedi ymddangos yn llys ynadon Swindon heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 7) wedi’u cyhuddo o rannu’r llun.
Mae Christopher Ashford wynebu pum achos o dorri mewn i raglen neu ddata cyfrifiadur yn anghyfreithlon o dan y Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.
Mae Sherry Bray wedi’i chyhuddo o dri achos o’r drosedd, ar ben bod yn gyfrifol am anfon “neges dramgwyddus, anweddus, a bygythiol” o Emiliano Sala, yn groes i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.