Mae’r honiadau am gylch pedoffilia honedig yn San Steffan wedi cael eu hailadrodd yn Llys y Goron Newcastle.

Mae Carl Beech, sy’n gyn-nyrs, yn honni bod Syr Edward Heath, cyn-Brif Weinidog Prydain, a Harvey Proctor, y cyn-aelod seneddol Ceidwadol, yn aelodau’r cylch.

Ond mae’r dyn sy’n gwneud yr honiadau wedi’i gyhuddo o wneud honiadau ffug am bedoffilia.

Gwariodd Heddlu Llundain £2m ar yr ymchwiliad i’r honiadau fod y grŵp yn weithredol yn y 1970au a’r 1980au, a’u bod wedi llofruddio tri o fechgyn.

Ond chafodd neb ei arestio yn dilyn yr ymchwiliad, ac mae tri aelod honedig o’r cylch – yr Arglwydd Edwin Bramall, 95, Syr Hugh Beach, 96, a Harvey Proctor – i gyd yn gwadu eu bod nhw’n rhan o’r cylch honedig.

Mae Carl Beech, 51 oed o Gaerloyw, yn honni ei fod e wedi cael ei dreisio gan ei lystad Ray Beech, a’i fod e wedi cael ei roi yn noethlymun i’w archwilio gan yr Arglwydd Bramall.

Mae’n honni bod yr Arglwydd Bramall wedi ei dreisio, ond roedd hwnnw’n “syfrdan” gan yr honiadau yn ystod cyfweliad â’r heddlu yn 2016.

Mae Syr Hugh Beach yn dweud bod yr honiadau’n “ffiaidd”.

Honiadau am nifer o bobol adnabyddus

Ar ôl i deulu Carl Beech symud o Wiltshire i Swydd Rydychen, mae’n dweud iddo gael ei dreisio gan Jimmy Savile.

Mae hefyd yn dweud bod Syr Michael Hanley, pennaeth MI5 a Syr Maurice Oldfield, pennaeth MI6, yn aelodau’r cylch, ac mae’n cyhuddo Syr Michael Hanley o ddwyn ei gi pan fethodd e â mynd i gael ei gam-drin ganddo.

Mae’n dweud iddo gyfarfod â Syr Edward Heath yn y Carlton Club yn Llundain, ac mae’n dweud bod hwnnw wedi atal Harvey Proctor rhag ei niweidio â chyllell boced.

Mae Carl Beech yn gwadu 12 cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac un cyhuddiad o dwyll.