Fe fydd y canwr Cliff Richard a’r DJ Paul Gambaccini yn helpu i lansio deiseb heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 1)  yn galw am newid yn y gyfraith fel bod y rhai sy’n cael eu hamau o droseddau rhyw yn aros yn anhysbys nes eu bod wedi’u cyhuddo.

Roedd y ddau wedi eu hamau ar gam o droseddau rhyw hanesyddol ac maen nhw wedi ymuno â grŵp pwyso newydd FAIR (Falsely Accused Individuals for Reform).

Fe fydd y ddeiseb yn cael ei lansio’n swyddogol yn San Steffan, ac mae eisoes a mwy na 2,000 o enwau arni ers 7yb dydd Llun (Gorffennaf 1).

Mae’n datgan bod angen cadw enwau’r rhai sydd wedi’u hamau yn anhysbys er mwyn “diogelu eu henwau da rhag stigma a honiadau ffug o droseddau rhyw… os ydyn nhw’n adnabyddus neu beidio.”

Mewn datganiad ar wefan y grŵp dywed Cliff Richard mai cael ei amau ar gam “oedd y peth gwaethaf sydd wedi digwydd i fi yn fy mywyd”.

Er nad oedd yr honiadau yn wir, meddai, mae “wedi bod bron yn amhosib cael gwared â’r stigma”.

Roedd y BBC wedi darlledu cyrch gan Heddlu Swydd Efrog ar gartref Cliff Richard yn Sunningdale, Berkshire yn 2014 yn dilyn honiadau o droseddau rhyw.

Roedd y canwr 78 oed wedi gwadu’r honiadau ac fe gyhoeddodd erlynwyr yn 2016 na fyddai’n wynebu unrhyw gyhuddiadau. Roedd hefyd wedi ennill achos preifatrwydd yn erbyn y BBC yn ddiweddarach.

Cafodd Paul Gambaccini, 70, ei arestio yn 2013 yn dilyn honiadau o droseddau rhyw yn erbyn dau fachgen yn eu harddegau, fel rhan o Ymgyrch Yewtree. Fe dreuliodd flwyddyn ar fechnïaeth cyn i’r achos gael ei ollwng.

Os yw’r ddeiseb yn cael cefnogaeth mwy na 10,000 o bobl fe fydd yn rhaid i’r Llywodraeth ymateb iddi ac os yw’n cael mwy na 100,000 o enwau arni fe fydd yn cael ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.