Mae dyn wedi cael ei anafu’n ddifrifol ar ôl i’w gar fynd dros ddibyn clogwyn yn Ne Tyneside.
Cafodd Heddlu Northumbria eu galw i ardal The Leas am oddeutu 7.30 fore heddiw (dydd Sul, Mehefin 23).
Daethon nhw o hyd i’r car ar waelod y clogwyn sy’n agos i linell derfyn ras y Great North Run yn South Shields.
Dim ond un person oedd yn y car, a does dim lle i gredu bod bywyd yr unigolyn mewn perygl.
Mae ymchwiliad ar y gweill.