Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yn ymgynghori â’i aelodau cyn penderfynu a ddylen nhw newid y gyfraith ar roi cymorth i farw.

Maen nhw wedi bod yn gwrthwynebu newid y gyfraith hyd yn hyn, yn dilyn eu hymgynghoriad diwethaf yn 2013.

Mae’n anghyfreithlon yng ngwledydd Prydain i roi cymorth i unrhyw un farw, a gall meddygon sy’n cael eu canfod yn euog dreulio hyd at 14 o flynyddoedd yn y carchar.

‘Hollti barn’

“Mae cymorth i farw yn fater sy’n arwain at emosiynau cryf iawn ac sy’n hollti barn,” meddai’r Athro Helen Stokes-Lampard, cadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu.

“Aeth chwe blynedd heibio ers i ni ofyn i’n haelodau a ddylen ni gefnogi newid y gyfraith ar gymorth i farw – ers hynny, mae’n bosib fod safbwyntiau ein haelodau wedi newid.

“Felly mae Cyngor Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu wedi penderfynu mai dyma’r amser cywir i gynnal ymgynghoriad, a byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion ynghylch hyn maes o law.”