Mae’r ymgyrch olaf rhwng y ddau ymgeisydd yn y ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn dechrau ar lawr gwlad yfory.
Fe fydd Boris Johnson a Jeremy Hunt yn cymryd rhan mewn cyfres o 16 o hystings fydd yn dechrau yn ninas Birmingham fory (Dydd Sadwrn, Mehefin 22) cyn symud ar draws gweddill gwledydd Prydain dros y mis nesaf.
Yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (Dydd Iau, Mehefin 20) fe sicrhaodd Boris Johnson gefnogaeth gan dros hanner y Torïaid gydag 160 pleidlais, tra bod Jeremy Hunt wedi cael 77 o bleidleisiau a Michael Gove 15.
Daeth canlyniad y bleidlais olaf yn syndod i lawer ar ôl i Michael Gove lwyddo i orffen yn ail yn y rownd gynt.
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt wynebu cwestiynau caled ar ôl i fideo gael ei rhyddhau yn dangos Gweinidog y Swyddfa Dramor, Mark Field, yn gwthio protestiwr newid hinsawdd yn ystod cinio yn Mansion House yn Llundain neithiwr (nos Iau, Mehefin 20) cyn ei hebrwng o’r ystafell.
Yn dilyn y digwyddiad, mae galwadau cynyddol ar Jeremy Hunt i ddiswyddo neu wahardd Mark Field o’i swydd.
“Dadleuon cryf”
Mae Jeremy Hunt yn cyfaddef mai Boris Johnson yw’r ceffyl blaen ond mae’n honni ei fod am herio ei wrthwynebydd.
“Mae angen iddo fod yn barod am hynny oherwydd rydyn ni am fod yn dadlau’n gryf dyma’r ffordd orau i sicrhau Brexit – gyda rhywun sy’n gallu cael bargen well gan yr Undeb Ewropeaidd.”
Roedd Jeremy Hunt wedi gwrthwynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd o’r dechrau, tra bod Boris Johnson yn frwd o blaid – ffactor a all benderfynu ffawd y ddau.
Fe fydd canlyniad y ras yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar Orffennaf 22 gyda’r ddau ymgeisydd yn cymryd rhan mewn hystings o flaen aelodau’r Torïaid.
Fe fydden nhw’n cymryd rhan mewn dadl deledu ar ITV ar Orffennaf 9 hefyd.