Mae gweinidog yn y Swyddfa Dramor Mark Field wedi dod dan y lach ar ol i fideo ei ddangos yn symud protestiwr newid hinsawdd o ginio yn Mansion House yn Llundain.
Mae’r clip fideo yn dangos yr Aelod Seneddol Ceidwadol yn gwthio’r ddynes cyn ei dal yn ol a’i gorfodi allan o’r ystafell drwy afael yng nghefn ei gwddf.
Fe ddigwyddodd y brotest yn ystod cinio lle’r oedd y Canghellor Philip Hammond yn annerch y gwesteion nos Iau (Mehefin 20).
Yn ol ITV, mae Mark Field wedi cyfeirio ei hun at Swyddfa’r Cabinet ac wedi “ymddiheuro’n daer” i’r protestiwr.
Mewn datganiad i ITV, dywedodd Mark Field: “Oherwydd y dryswch roedd nifer o’r gwesteion, yn ddealladwy, yn teimlo dan fygythiad a phan ruthrodd un o’r protestwyr heibio mi wnes i ymateb yn reddfol.”
Ychwanegodd nad oedd swyddogion diogelwch yn bresennol a’i fod yn poeni bod y protestiwr yn arfog. Mae’n dweud ei fod yn gresynu’r digwyddiad ac y bydd yn cydweithio’n llawn gydag ymchwiliad Swyddfa’r Cabinet.
Mae nifer o Aelodau Seneddol eraill sydd wedi gweld y fideo wedi beirniadu Mark Field.
Yn ol yr AS Llafur Jess Phillips nid oedd y protestiwr “yn peri unrhyw fygythiad o’r hyn welais i” ac nad oedd modd “cyfiawnhau” yr hyn ddigwyddodd.
Ychwanegodd yr AS Llafur Dawn Butler ei fod yn “erchyll” ac y dylai Mark Field gael ei ddiswyddo neu ei wahardd. Ac yn ol AS y Democratiaid Rhyddfrydol Chuka Umunna roedd gweithredoedd Mark Field yn “hollol annerbyniol”.
Dywedodd Greenpeace bod 40 o’u hymgyrchwyr wedi mynychu’r digwyddiad, oedd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar y teledu, er mwyn tynnu sylw at newid hinsawdd.
Dywed yr heddlu nad oes unrhyw un wedi cael eu harestio.