Fe fydd Aelodau Seneddol Torïaidd yn dewis y ddau ymgeisydd a fydd yn mynd drwodd i rownd derfynol etholiad yr arweinyddiaeth heddiw.

Pedwar sydd ar ôl yn y ras bellach ers i Rory Stewart ddod yn olaf yn y bleidlais ddoe.

Aelodau’r blaid ar lawr gwlad wedyn fydd yn cael dewis rhwng y ddau ymgeisydd a ddaw i’r brig heddiw.

Mae’r cyn-ysgrifennydd tramor Boris Johnson fwy neu lai’n sicr o fod yn un ohonyn nhw ar ôl sicrhau pleidleisiau 143 allan o’r 313 AS ddoe.

Jeremy Hunt, Michael Gove a Sajid Javid yw’r tri arall sydd ar ôl, a bydd y cyhoeddiad terfynol yn cael ei wneud am 6 o’r gloch heno.

Fe fydd y 160,000 o aelodau’r Blaid Geidwadol yn cael dewis pa un o’r ddau fydd y prif weinidog nesaf mewn pleidlais bost dros y mis nesaf.