Mae dyn a daflodd ysgytlaeth dros Nigel Farage wedi cael ei orchymyn i dalu iawndal i’r gwleidydd am yr hyn sy’n cael ei ystyried yn ymosodiad “â bwriad gwleidyddol”.
Fe daflodd Paul Crowther, 32, y ddiod gwerth £5.25 dros arweinydd y Blaid Brexit tra oedd yn ymgyrchu yn Newcastle upon Tyne ar Fai 20.
Mae’r cyn-weithiwr i gwmni Sky wedi cyfaddef ymosod ar Nigel Farage a gwneud difrod troseddol, ac mae’n rhaid iddo dalu cyfanswm o £350 mewn iawndal, yn ogystal â chyflawni 150 awr o wasanaeth cymunedol.
Yn ôl y barnwr yn Llys Ynadon Newcastle upon Tyne, roedd Paul Crowther wedi cyflawni “gweithred o dwpdra llwyr”.
Ers y digwyddiad, mae Paul Crowther wedi derbyn cyfres o fygythiadau o drais, yn ogystal â cholli ei swydd gyda Sky.
Roedd cronfa ar y wefan GoFundMe, a oedd yn dwyn y teitl ‘Get Paul Crowther his Milkshake Money Back’, wedi casglu £1,705.
Yn ôl cyfreithiwr Paul Crowther, mae ei gleient bellach yn difaru ymddwyn yn y modd y gwnaeth ar Fai 20.