Mae tua 180 o swyddi yn y fantol wedi i gwmni Allied Bakeries gyhoeddi cynlluniau i ddod â’r gwaith yng Nghaerdydd i ben.
Mae disgwyl i’r cwmni bara atal y gwaith fel rhan o adolygiad busnes sy’n cael ei gynnal ers iddyn nhw golli cytundeb pwysig yn gynharach eleni.
Yn ôl Allied Bakeries, maen nhw’n ystyried symud eu gweithgareddau i safleoedd eraill yng ngwledydd Prydain, ond maen nhw’n awyddus i gadw presenoldeb ar y safle yng Nghaerdydd, sydd wedi ei lleol yn Heol Maes-y-Coed.
Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn ymgynghori â’r 360 aelod o staff sy’n gweithio ar y safle.
Beirniadu
Mae undeb sy’n cynrychioli gweithwyr y diwydiant (BFAWU) wedi beirniadu’r cam gan Allied Bakery, gan ddweud y bydd effaith y cau yn “niweidiol” i Gymru.
“Mae tipyn o hyn o ganlyniad i rym yr archfarchnadoedd,” meddai ysgrifennydd cyffredinol y BFAWU.
“Maen nhw’n symud cynnyrch o un cynhyrchydd i’r llall, heb feddwl am effaith hynny ar swyddi.”