Mae miloedd wedi gwneud sbort am ben Donald Trump wedi iddo alw Tywysog Siarl yn “Dywysog y Morfilod”.
Mewn neges ar ei gyfrif Twitter dydd Iau (Mehefin 13), mae’r arlywydd yn rhestru enwau llu o ffigyrau rhyngwladol mae wedi cwrdd â nhw.
Ac ymhlith yr enwau sydd ar y rhestr honno mae “Brenhines Lloegr (y Deyrnas Unedig) a Thywysog y Morfilod (Prince of Whales).”
“Prince of Whales” yw’r term sydd wedi cael ei ddefnyddio yn Saesneg, ac mae hynny wrth gwrs yn gamsillafiad o Prince of Wales, sef teitl Tywysog Siarl.
Bellach mae’r camsillafiad wedi cael ei gywiro, ond dyw hynny ddim wedi rhwystro’r gaff rhag lledu dros y we.
Mae dros 30,000 o bobol wedi trydaru negeseuon â’r geiriau Prince of Whales, ac mae WalesOnline wedi newid ei enw ar Twitter i WhalesOnline.