Y cyn-Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, sydd wedi cael y nifer mwyaf o bleidleisiau yn rownd gyntaf y ras i ddewis arweinydd newydd y blaid Geidwadol.

Fe gafodd y ffefryn i olynu Theresa May gyfanswm sylweddol o 114 o bleidleisiau, o gymharu â’r gefnogaeth a gafodd gweddill yr ymgeiswyr.

Yn yr ail safle mae Jeremy Hunt gyda 43 o bleidleisiau, tra bod Michael Gove yn y trydydd safle gyda 37.

Mae Mark Harper, Esther McVey ac Andrea Leadsom allan o’r gystadleuaeth wedi iddyn nhw fethu â chael digon o bleidleisiau.

Mae hynny’n golygu mai saith ymgeisydd fydd yn mynd ymlaen i’r ail rownd o bleidleisio, yn eu plith Sajid Javid, Dominic Raab a Matt Hancock.

Y canlyniadau

  • Michael Gove – 37
  • Matt Hancock – 20
  • Mark Harper – 10
  • Jeremy Hunt – 43
  • Sajid Javid – 23
  • Boris Johnson – 114
  • Andrea Leadsom – 11
  • Esther McVey – 9
  • Dominic Raab – 27
  • Rory Stewart – 19