Mae rheoleiddio i sicrhau diogelwch bwyd yn dangos “arwyddion o straen” wrth i awdurdodau lleol ledled gqlwdydd Prydain dorri staff a pheidio cynnal profion mor aml ag y dylen nhw.

Er gwaetha’r posibilrwydd o “ganlyniadau trychinebus” pan mae mesurau’n methu, mae gostyngiad o 19% wedi bod yn y gwariant ar hylendid bwyd gan awdurdodau lleol rhwng 2012-13 a 2017-18.

Y pwysau ariannol ar gynghorau sir sy’n cael y bai, meddai’r Swyddfa Archwilio (NAO) mewn adroddiad.

Mae toriadau i staff hylendid a safonau bwyd wedi arwain at rai awdurdodau lleol yn methu â chyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol i sicrhau bod busnesau yn cadw at y gyfraith, meddai’r adroddiad.

Llai na hanner yr holl archwiliadau safonau bwyd a oedd i fod i gael eu cynnal hwng 2012 a 2018, wnaeth ddigwydd mewn gwirionedd.

Mae’r choedd hefyd yn parhau i fod yn ansicr ynghylch â’r wybodaeth y dylai canolfannau ddarparu am alergeddau a chynbwys eu bwydydd.

Bib blwyddyn, mae tua miliwn o bobol yng ngwledydd Prydain yn dioddef salwch o ganlyniad i fwyta bwyd, gan gostio £1bn o ran colli enillion, derbyniadau i’r ysbyty a’r effaith ar les unigolion.